Helfa Gelf, Digwyddiad Stiwdio Agored fwyaf Gogledd Cymru (02/09/17 + 16/09/17)

Helfa Gelf, Digwyddiad Stiwdio Agored fwyaf Gogledd Cymru

Mynediad Agored Estynedig

Dydd Sadwrn 2 a 16 Medi 2017

11:00am – 5:00pm

Pleser gennym yw cyhoeddi y bydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn rhan o’r Helfa Gelf eleni, Digwyddiad Stiwdio Agored fwyaf Gogledd Cymru sy’n gwahodd pawb i ymweld ag artistiaid wrth eu gwaith yn eu stiwdios.

Fel rhan o’r prosiect, bydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol ar agor ddydd Sadwrn 2 a 16 Medi 2017 rhwng 11am a 5pm.

Galwch heibio i weld y stiwdio a’r cyfleusterau sydd gennym, a chewch gyfarfod â’n haelodau a gweld eu gwaith. Bydd celfwaith ar werth yn uniongyrchol gan aelodau’r Ganolfan a fydd yn gweithio yma drwy gydol y dydd.

Am ragor o fanylion, ewch i:

http://www.helfagelf.co.uk

https://helfagelf.co.uk/artists/regional-print-centre

Sylwadau ar gau.