12 a 13 Gorffennaf 2018
10:00am-4:00pm
Arwynebau ac Arwyddion y Ddinas – gydag Argraffu Colagraff a Charborwndwm
Archwiliwch destun ac amgylchedd gweadeddol y dref a’r ddinas trwy botensial cyfoethog lliw a gweadedd a gynigir gan y broses golagraff yn y gweithdy hwn dros ddau ddiwrnod.
Dysgwch am wneud platiau gan ddefnyddio ystod o gyfryngau a deunyddiau gan ganolbwyntio ar gerfwedd weadeddol, ffurfiau llythrennau ac arwynebeddau a ddarganfyddir mewn tirwedd drefol a datblygu sawl plât eich hun. Bydd Michelle yn darparu adnoddau gweledol i weithio arnyn nhw, ond mae croeso i chi ddod a rhai eich hunain!
Gweler https://www.instagram.com/surfacesandsignsofthecity
Ar yr ail ddiwrnod, byddwch yn dysgu sut i incio’r platiau gydag intaglio a dulliau cerfweddol eraill, gan archwilio lliw a haenau, stensiliau a boglynwaith.
Mae Michelle yn ddarlithydd Celfyddyd Gain yng Ngholeg Metropolitan Cilgwri ac yn arbenigo mewn gwneud printiau a llyfrau arlunio. Mae wedi llunio sawl llyfr celf a gwneud printiau mewn prosiectau cydweithredol gan gynnwys gyda Brigham Young University, Utah. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer gradd meistr mewn Ymyrraeth Safle ac Archif yn UCLan lle mae hi’n ymchwilio agweddau o’n perthynas â ‘lle’.