Cod y Cwrs: LA10611
Dyma gymhwyster achrededig (yn amodol ar gael ei ddilysu) sy’n cael ei gyflwyno gan Goleg Cambria a’i gynnal gan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol
- Lefel: canolradd (Mae profiad blaenorol o wneud printiau yn ddymunol)
- Dechrau: 13/01/2018 – cwrs 10 wythnos (1 diwrnod yr wythnos)
- Dydd: Sadwrn (10 am-4pm)
- Dyddiadau: 13/01, 20/01, 27/01, 03/02, 10/02, 24/02, 03/03, 10/03, 17/03, 24/03
- Cost: £ 420.00 – Yn cynnwys yr holl ddeunyddiau
Cofrestrwch yma: https://goo.gl/mNiVkK
Mae gan wneud printiau fel gweithgaredd creadigol, hanes hir a nodedig. Mae wedi bod yn gyfrwng â sawl agwedd iddo ar gyfer ystod eang iawn o artistiaid, o Durer i Warhol, i archwilio ystod yr un mor amrywiol o faterion a syniadau. Bydd y cymwysterau, wrth alluogi myfyrwyr i adeiladu ar brofiad blaenorol, yn gofyn iddynt wynebu profiadau a heriau deallusol a phwysig newydd a gynlluniwyd i ddarparu dealltwriaeth feirniadol annibynnol a sylfaen sgiliau estynedig.
I ennill Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwneud Printiau, bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau dwy uned
- Egwyddorion Gwneud Printiau Argraffu Uned 1 Lefel 2
- Uned 6 Lefel 2 Gwneud Printiau Arbrofol
Caiff pob uned ei hasesu a’i safoni’n fewnol yn erbyn y meini prawf asesu ar gyfer yr unedau hynny.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ennill gradd llwyddo ym mhob uned i fod yn gymwys i gael gradd cymhwyster cyffredinol.
Os hoffech barhau â’ch astudiaethau, gallwch symud ymlaen i Ddyfarniad Lefel 3 mewn Gwneud Printiau.
Gall cyfranogwyr symud ymlaen i ddefnyddio’r cyfleusterau agored i wneud printiau sydd ar gael drwy’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Gallant hefyd symud ymlaen i Weithdai Artistiaid ar ymweliad arbenigol sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.