Cod y Cwrs: LA10613
Dyma gymhwyster achrededig sy’n cael ei gyflwyno gan Goleg Cambria a’i gynnal gan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol
- Lefel: canolradd /uwch (Mae angen profiad gwneud printiau)
- Dechrau: 30/03/2019 – cwrs 10 wythnos (1 diwrnod yr wythnos)
- Dydd: Sadwrn (10 am-4pm)
- Dyddiadau: 30/03, 06/04, 13/04, 04/05, 11/05, 18/05, 25/05, 08/06, 15/06, 22/06
- Cost: £ 420.00 – Yn cynnwys yr holl ddeunyddiau
- Cofrestrwch yma: https://goo.gl/WMnjQ3
Mae gan wneud printiau fel gweithgaredd creadigol, hanes hir a nodedig. Mae wedi bod yn gyfrwng â sawl agwedd iddo ar gyfer nifer fawr iawn o artistiaid amrywiol, o Durer i Warhol, i archwilio rhychwant materion a syniadau yr un mor amrywiol. Bydd y cymwysterau, wrth alluogi myfyrwyr i adeiladu ar eu profiad, yn gofyn iddynt wynebu profiadau a heriau deallusol a phwysig newydd a gynlluniwyd i feithrin dealltwriaeth feirniadol annibynnol a sylfaen sgiliau estynedig. .
I ennill Dyfarniad Lefel 3 mewn Gwneud Printiau, bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau dwy uned:
- Uned 7 Lefel 3 Egwyddorion Gwneud Printiau (gorfodol)
Ac un uned ddewisol arall hefyd o blith y canlynol:
- Uned 8 Lefel 3 Gwneud Printiau Intaglio
- Uned 9 Lefel 3 Gwneud Printiau Cerfwedd
- Uned 11 Lefel 3 Argraffu â Sgrîn
Caiff pob uned ei hasesu a’i safoni’n fewnol yn erbyn y meini prawf asesu ar gyfer yr unedau hynny.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ennill gradd lwyddo ym mhob uned i fod yn gymwys i gael gradd gyffredinol y cymhwyster.
Gall cyfranogwyr hefyd symud ymlaen i ddefnyddio’r cyfleusterau agored gwneud printiau, sydd ar gael drwy’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol, i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Gallant hefyd symud ymlaen i fynychu Gweithdai Arbenigol Artistiaid ar Ymweliad, sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.