28 – 29 Mai (10:00-16:00)
Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio posibiliadau gwneud marciau drwy electro ysgythru ar sinc, dur meddal a chopr. Mae’r dechneg wedi ei sefydlu ers 150 mlynedd ac yn ddiweddar daeth yn boblogaidd unwaith eto fel dull gwahanol i ysgythru ag asid, a’r dull rhataf ac o bosibl y mwyaf diogel.
Bydd y gweithdy yn archwilio posibiliadau electro ysgythru fel proses arall ar gyfer gwneud marciau. Mewn ysgythru traddodiadol gwneir marciau trwy dynnu’r metel o’r plât. Un o fanteision electro ysgythru yw y gellir ychwanegu neu gael gwared â metel.
Nod y gweithdy yw:
- Rhoi cyflwyniad syml i ddamcaniaeth ac arferion electro ysgythru.
- Cyflwyno’r offer angenrheidiol ar gyfer electro ysgythru, sut i’w osod a’i ddefnyddio’n ddiogel.
- Paratoi ac ysgythru platiau.
- Incio ac argraffu platiau.
Amcan:
- Bydd y cyfranogwyr wedi cael gwybodaeth ymarferol am electro ysgythru ac wedi gwneud a phroflennu o leiaf un plât.
Mae’n rhaid archebu lle (anfonwch e-bost neu ffoniwch)
Heb aelodaeth £120.00 / Aelodau £75.00