Dull integredig mwy diogel a llai gwenwynig o ysgythru
31 Mai a 1 Mehefin 2018
10:00am-4:00pm
Yn y gweithdy hwn, bydd Andrew Baldwin yn arddangos posibiliadau gwneud marciau drwy gyfuno defnyddio electro-ysgythru a’r prosesau a thechnegau mwy diogel a gafodd eu datblygu. Mae electro-ysgythru yn ddull newydd diogel, cost effeithlon a chreadigol i gymryd lle ysgythru ag asid a’i ddulliau cyfatebol. Mae’r cyfuniad o dechnegau ysgythru mwy diogel ac electro-ysgythru yn golygu eich bod yn gallu ysgythru mewn stiwdio agored ac addysgu ysgythru yn yr ystafell ddosbarth.
Mae hwn yn weithdy ymarferol
Nod y gweithdy yw:
- Rhoi cyflwyniad syml i ddamcaniaeth ac arfer electro-ysgythru ac ysgythru mwy diogel.
- Rhoi cyflwyniad am yr offer sydd eu hangen i electro-ysgythru a phlatio, sut i’w gosod a’u defnyddio’n ddiogel.
- Gwneud platiau mwy creadigol gan ddefnyddio dulliau mwy diogel a phrosesau; gosod grwndiau, platiau acwatint, ‘spit bite’ a chodi â siwgr.
- Selio a phrintio platiau mewn dau liw.
- Cyflwyno cyfranogwyr i electro-ffurfio ac electrodeipio fel proses posibl mewn gwneud printiau, gemwaith a cherflunwaith.
Amcanion:
- Bydd y cyfranogwyr wedi cael gwybodaeth ymarferol am electro-ysgythru a defnyddio prosesau a thechnegau ysgythru mwy diogel i’w defnyddio yn eu harferion gwneud printiau.
- Rhoi adborth i’w ddefnyddio ar gyfer ymchwil ôl-ddoethurol
http://www.printmakingstudio.co.uk/
Heb fod yn aelod £140 / Aelodau £90
Mae’n rhaid cadw eich lle (trwy e-bost neu ffonio)