Invalid Displayed Gallery
Hyfforddais yn beintiwr yn wreiddiol, er mae fy ngwaith presennol yn defnyddio sawl techneg argraffu, colagraff yn bennaf ond hefyd sychbwynt a monoargraffu. Yn aml, rwy’n gweithio mewn cyfres o ddelweddau y gellir eu cyfuno mewn llyfr artist.
Mae gennyf ddiddordeb mewn effeithiau amser, y tywydd a’r cof ar yr amgylchedd naturiol a’r un a gaiff ei chreu gan ddyn. Mae’r sylwadau a gesglais wrth ddringo dros hen forgloddiau, archwilio lleoliadau hynafol a chrwydro traethau am falurion a olchwyd i fyny gyda’r llanw oll yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o liwiau cynnil, gweadedd a ffurfiau amwys, eu siapiau a’u pwrpas gwreiddiol wedi eu treulio bron yn haniaethol.
Gwell gennyf adael i’r argraffau hyn aros yn y cof am ychydig, i’w aildrefnu a’u halldynnu nes eu bod yn ymddangos yn hanfod y profiad.
Cafodd fy ngwaith ei arddangos yn helaeth yn y Gogledd Orllewin a Chymru. Rwy’n diwtor profiadol ym maes Addysg oedolion ac rwy’n cynnal grwpiau a gweithdai creadigol mewn technegau amrywiol.