FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2017 – Sadwrn 11eg Tachwedd 2017
#mostynprint #northwalesprint
Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi manylion Ffair Brintiau Gogledd Cymru gyntaf, cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn 11eg Tachwedd yn oriel MOSTYN Llandudno.
Bydd dros 40 o wneuthurwyr print, o bob rhan o’r DU, yn cyflwyno gwaith i’w werthu ym mannau prydferth Edwardaidd yr oriel. Mae Ffair Brintiau Gogledd Cymru, a drefnir mewn partneriaeth â’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol, yn gyfle gwych i siopwyr brynu celf fforddiadwy a gwreiddiol yn uniongyrchol o’r artist, mewn digon o amser i’r Nadolig.
Bydd gweithdai a chyflwyniadau brint a chyfleoedd i ennill gwobrau gwych sy’n gysylltiedig â phrint. Mae mynediad am ddim. Mae ei siop ac oriel manwerthu, gan gynnwys un ymroddedig i wneuthurwyr printiau, wedi cael eu galw’n ‘lle i mynd’ yng Ngogledd Cymru i brynu gwaith gan wneuthurwyr cyfoes am brisiau fforddiadwy.
Barry Morris, Rheolwr Manwerthu MOSTYN:
‘Rydym wrth ein bodd i gael y ffair Brintiau gyntaf erioed ym MOSTYN. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r gorau o fyd printiau cyfoes.’
Jim Creed, Cydlynydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol:
‘Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â MOSTYN er mwyn trefnu’r Ffair Brintiau. Mae’n gyfle gwych i wneuthurwyr printiau arddangos eu gwaith mewn oriel o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn ogystal, mae’n gyfle i weithgarwch gwneud printiau fod yn fwy hygyrch trwy gynnig y cyfle i ymwelwyr holi cwestiynau, gweld arddangosiadau gwneud printiau a phrynu gweithiau celf wreiddiol.’
FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2017
Sadrwn 11eg Tachwedd 2017
Yn agored i’r cyhoedd: 10.30am – 5.00pm
www.mostyn.org/print