Invalid Displayed Gallery
Mae Frances Carlile yn gerflunydd ac yn argraffydd sydd wedi ei lleoli yn Llwydlo. Fe’i ganed yn yr Alban a bu’n byw yng Nghymru am 25 mlynedd. Astudiodd Celfyddyd Gain yn Camberwell, Llundain yn 1992 a chwblhaodd MA mewn Cerfluniaeth yng Ngholeg Celf Chelsea yn 1995. Dechreuodd argraffu yn y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn 2010. Mae wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru a Lloegr.
Yn wreiddiol, datblygodd ei gwaith argraffu o ddarluniau a waned ochr yn ochr â’i gwaith celf.
Defnyddia waith argraffu i archwilio syniadau tawelwch, unigedd a lle dychmygol. Y gaeaf yw cyd-destun y gwaith. Yn nhirlun coed y gaeaf daw awgrymiadau naratif. Aildrefnir y tirlun i greu ardal lonydd, ar wahân. Atgofion straeon tylwyth teg a phlentyndod sy’n arwain y gwaith.