- Cyfres o weithdai deuddydd mewn proses gwneud printiau penodol
- Lefel: Canolradd / Uwch
- Cost: Pob gweithdy: Rhai nad ydynt yn aelodau: £70 / Aelodau £60 (Rhaid archebu lle trwy anfon neges e-bost neu ffonio)
- Yn cynnwys deunyddiau (rhaid talu erbyn y sesiwn gyntaf)
Gweithdai sydd i ddod
Canolbwyntio ar: Finyl Japaneaidd a Thechnegau Incio
- Dyddiadau: 28 a 29 Mawrth 2018
Canolbwyntio ar: Ysgythru â Gwrthyddion Acrylig
- Dyddiadau: 5 a 6 Ebrill 2018
Mae ein cyfres o Weithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau yn cynnig cyfle gwerthfawr i ganfod prosesau newydd a datblygu dealltwriaeth soffistigedig o wneud printiau. Maent wedi eu cynllunio i ateb gofynion pobl sydd â diddordeb yn y pwnc ac maent yn darparu ar gyfer lefelau profiad amrywiol.
Nod pob gweithdy deuddydd yw darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o broses penodol (er enghraifft Torlun leino, Colograff, Sychbwynt, Ysgythru neu Sgrin-brintio) i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan, yn ogystal â chyfle i gynhyrchu gwaith sy’n dangos ymateb creadigol i’r dechneg gwneud printiau honno. Byddwch bob sesiwn yn cael ei harwain gan un o Hwyluswyr y Ganolfan Argraffu Ranbarthol sydd â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â gwneud printiau.
Darperir deunyddiau ac offer ac anogir cyfranogwyr i archwilio pynciau a dylanwadau creadigol eu hunain trwy gydol y gweithdy deuddydd.
Bydd y rhai hynny sy’n cymryd rhan, yn gallu symud ymlaen i ddefnyddio cyfleusterau gwneud printiau mynediad agored trwy’r Ganolfan er mwyn datblygu eu gwaith ymhellach. Gallant hefyd symud ymlaen i’n Gweithdai Arlunwyr ar Ymweliad arbenigol, a gynhelir yn rheolaidd trwy’r flwyddyn.