Rydyn ni’n falch iawn o gael lansio ein cyfres newydd o weithdai gyda’r nos, a fydd yn canolbwyntio ar broses gwneud printiau penodol, ac a fydd yn cynnig gwybodaeth ymarferol estynedig i’r rhai sy’n cymryd rhan a fydd yn eu galluogi i ddod i ddeall proses penodol (er enghraifft, leino, sychbwynt, sgrin).
Gweithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau (2016)
Cyfres o weithdai 5 wythnos ar broses penodol gwneud printiau
- Diwrnod: Dydd Llun (6pm-8pm)
- Lefel: canolradd / uwch
- Cost: Pob gweithdy: Heb fod yn aelodau £60.00/ Aelodau £50.00 (Rhaid archebu lle trwy ffonio / anfon e-bost)
- Yn cynnwys y deunyddiau (bydd angen talu yn ystod y sesiwn gyntaf)
Gweithdy Canolbwyntio ar Sychbwynt
- Dyddiadau: 11/01, 18/01, 25/01, 01/02, 08/02
Gweithdy Canolbwyntio ar Ysgythru
- Dyddiadau: 22/02, 29/02, 07/03, 14/03, 21/03
Mae ein cyfres o Weithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau yn cynnig cyfle gwerthfawr i ganfod prosesau newydd ac i feithrin dealltwriaeth soffistigedig o wneud printiau. Maent wedi’u cynllunio i fodloni gofynion pobl sydd â diddordeb brwd yn y pwnc, ac maent yn darparu ar gyfer gwahanol lefelau o brofiad.
Bydd pob un o’r gweithdai 5 wythnos yn ceisio rhoi gwybodaeth am broses penodol a chael y rhai sy’n cymryd rhan ynddo i’w ddeall (er enghraifft; torlun leino, sychbwynt, sgrin-brintio) a bydd cyfle i greu gwaith sy’n dangos ymateb creadigol i’r dechneg gwneud printiau. Byddwch yn cael eich dysgu gan un o Hwyluswyr Y Ganolfan Argraffu Ranbarthol sydd â dealltwriaeth a gwybodaeth helaeth am wneud printiau.
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau ac offer a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i ystyried eu pwnc eu hunain a’r dylanwadau creadigol arnynt, drwy gydol y gweithdy 5 wythnos.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu symud ymlaen i ddefnyddio’r cyfleusterau mynediad agored sydd ar gael trwy’r Ganolfan i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Gallant hefyd symud ymlaen i’n Gweithdai Artistiaid Gwadd arbenigol, sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:www.regionalprintcentre.co.uk