Hoffech chi roi cynnig ar wneud printiau neu adnewyddu eich sgiliau gwneud printiau? Efallai eich bod yn chwilio am gyfeiriad creadigol newydd? Os felly, dyma’r gweithdy i chi!
Gweithdy Cyflwyniad i Wneud Printiau
- Yn dechrau: 12 Ionawr 2016 (am 10 wythnos)
- Dyddiadau: 12/01, 19/01, 26/01, 02/02, 09/02, 23/02, 01/03, 08/03, 15/03, 22/03
- Lefel: Dechreuwyr/Adnewyddu
- Cost: £95.00
Bydd hyn yn cynnwys yr holl ddeunyddiau (bydd angen talu’n llawn yn ystod y sesiwn gyntaf)
Dyma weithdy 10 wythnos i unrhyw un fyddai’n hoffi rhoi cynnig ar wneud printiau am y tro cyntaf neu adnewyddu eu sgiliau gwneud printiau mewn amgylchfyd stiwdio broffesiynol. Nod y gweithdy yw rhoi cyfres o sesiynau blasu ymarferol i chi ar nifer o dechnegau gwneud printiau creadigol gwahanol.
Yn ystod y 10 wythnos bydd dwy sesiwn ar bob un o’r prosesau gwneud printiau canlynol: cerfwedd, intaglio, colagraff, mono a sgrin. Byddwch yn cael eich dysgu gan un o Hwyluswyr Y Ganolfan Argraffu Ranbarthol, sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth am wneud printiau.
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau ac offer a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i ystyried eu pwnc eu hunain a’r dylanwadau creadigol arnynt drwy gydol sesiynau’r gweithdy.
Bydd y rhai sy’n cwblhau’r rhaglen 10 wythnos yna’n gallu symud ymlaen i’n Gweithdai Canolbwyntio ar Wneud Printiau a’r Gweithdai Artistiaid Gwadd. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfleusterau mynediad agored y Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddatblygu eich gwaith a’ch dealltwriaeth.
Bydd ein cyfres o Weithdai Gwneud Printiau 5 wythnos yn eich galluogi i ddeall proses gwneud printiau penodol yn dechnegol yn ymarferol ac ar lefel canolradd / uwch (er enghraifft; leino, sychbwynt, sgrin-brintio). I gael rhagor o fanylion ewch i: www.regionalprintcentre.co.uk.