- Mynediad Agored Estynedig
- Dydd Sadwrn 6 a 20 Medi 2014
- 11am – 5pm
Pleser gennym yw cyhoeddi y bydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn rhan o’r Helfa Gelf eleni, Digwyddiad Stiwdio Agored fwyaf Gogledd Cymru sy’n gwahodd pawb i ymweld ag artistiaid wrth eu gwaith yn eu stiwdios.
Fel rhan o’r prosiect, bydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol ar agor ddydd Sadwrn 6 a 20 Medi 2014 rhwng 11am a 5pm.
Galwch heibio i weld y stiwdio a’r cyfleusterau sydd gennym, a chewch gyfarfod â’n haelodau a gweld eu gwaith. Bydd celfwaith ar werth yn uniongyrchol gan aelodau’r Ganolfan a fydd yn gweithio yma drwy gydol y dydd.
Am ragor o fanylion, ewch i:
http://www.helfagelf.co.uk
http://www.helfagelf.co.uk/en/artists/regional-print-centre