Invalid Displayed Gallery
Astudiodd John baentio yn y Camberwell School of Art. Dilynodd hynny trwy astudio gwneud printiau a phaentio yn ôl radd yn y Byam Shaw School of Drawing and Painting, lle meithrinodd ddiddordeb mewn ysgythru (acwatint). Ar ôl hynny, dilynodd cwrs ôl-radd mewn Gwneud Printiau Celfyddyd Gain yn y Central School of Art & Design. Yna, dechreuodd John arddangos ei waith yn rheolaidd yn Llundain, Caer a Chymru, lle cynhaliodd nifer o sioeau un dyn a deuddyn. Dangosodd ei waith mewn arddangosfeydd agored mawr hefyd, fel Arddangosfa Haf yr Academi Brenhinol. Symudodd John o Lundain i Ogledd Cymru yn 1985, gan barhau i baentio, yn ogystal â darlithio mewn celf ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Llandrillo. Dyfarnwyd grant ymchwil Cyngor Celfyddydau Cymru iddo ym mis Hydref 2010. Yn ystod y cyfnod hwn ymchwiliodd i ysgythru ffoto-polymer.
Derbyniodd John grant cynhyrchu gan Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ionawr 2012 ar gyfer: “Datblygu corff o waith i’w arddangos mewn print, collage a phaent, gan ddefnyddio technegau arloesol a deunyddiau lleol (pigmentau Mynydd Parys) ac archwilio cysyniadau o straen a haenu, gan gyfeirio’n arbennig at ddaeareg Geo Môn (Geoparc Ynys Môn)”.
Yn ystod y prosiect treuliodd lawer o amser yn ymchwilio i ffoto-ysgythru a dulliau o gyfuno hynny â dulliau mwy traddodiadol o wneud printiau intaglio fel defnyddio carborwndwm.
Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan bosibiliadau aml-agwedd y gwahanol amrywiadau o haenu a chracio mewn coed a chreigiau, sy’n cael eu hamlygu mewn natur.