Nigel Morris

Invalid Displayed Gallery

Yn ystod y misoedd diweddar, bu datblygiad yng nghyd-destun fy ngwaith sydd wedi arwain at ystyried y berthynas rhwng gwaith semiotig a’r gair ysgrifenedig neu god fel iaith. Mae’r gwaith yn ceisio ymgysylltu â gosodiad y symbol a swyddogaeth testunau fel systemau o arwyddion gwybodaeth, gyda phwrpas y ffurfiau hyn fel symbolau neu destun yn llai amlwg y pellaf yn ôl i hanes yr edrychwn. Gellid derbyn cyfres o symbolau/testunau o 5260CC  yn gelf gyfoes, ond eto, roedd yn godecs er mwyn i bobl allu cyfathrebu.

Croesrywedd y ffurfiau hyn yw sail y gwaith newydd a wneir; daw pwrpas y ffurfiau hyn yn  aneglur wrth holi llythrennedd ysgrifenedig a’i ddibyniaeth ar y symbol gweledol, gan wneud y llinell ddiffiniol rhwng y gweledol a’r llythrennol yn aneglur.

Mae’r gwaith yn cwestiynu beth yw haniaeth cyfoes, ac mae’r cyfeiriad at hanes paentio’n parhau i fod yn ffynhonnell astudio. Defnyddiaf baentio yn gyfrwng dewisol er bod yr arfer o argraffu’n datblygu’n ail gyfrwng pwysig i greu gwaith. Mae perthynas argraffu â’r gair ysgrifenedig i’w drafod ymhellach yn y gwaith.

Mae’r broses o greu yn factor pwysiog yn y gwaith, gyda gwneud â llaw gyfwerth ag uniongyrchedd yr ideoleg. Mae’r mecanyddol a’r ffotograffig yn elfennau anaddas i ethos y gwaith. Er bod crefft a dawn yn aml yn cael eu cwestiynu mewn celf gyfoes, maent yn factor hanfodol yn y gwaith, sy’n cyferbynnu â mecanyddolrwydd y llythrennol a’i angen i gael ei atgynhyrchu.

Sylwadau ar gau.