Invalid Displayed Gallery
Tarddiad y delweddau yw diddordeb mewn ffurfiau darfodedig a bregus, blodau, pryfaid a chelloedd sy’n enghreifftio ein cysyniadau am harddwch, cymesuredd a threfn.
Gall wynebau hindreuliedig, wedi erydu neu drallodus sy’n adlewyrchu’r newid parhaus a gaiff ei greu gan amser, dyn a grymoedd yr elfennau sy’n llunio’r tirlun a’n amgylchedd hefyd fod yn fan cychwyn.
Mae cylch naturiol natur, tyfiant, pydredd ac adfywiad yn tanategu’r delweddau darfodedig a diflanedig
Dewisir deunyddiau a phrosesau am eu gwerthoedd cynhenid ac i gefnogi’r syniadau