Torlun leino wedi graddoli gyda Jess Bugler (06/08/2015 – 07/08/2015) – Dim lle ar ôl

Bydd y gweithdy yn archwilio posibiliadau defnyddio’r broses torlun leino leihau a hyrwyddwyd gan Picasso i greu printiau lliwgar deinamig.  Bydd darn o leino yn cael ei argraffu sawl gwaith, gyda’r ddelwedd yn cael ei gerfio fwyfwy rhwng pob argraffiad.  Bydd y cyfranogwyr yn cael eu tywys drwy’r broses ddylunio, torri ac argraffu a bydd cyfle i archwilio’r defnydd o blatiau argraffu positif  a negyddol.

Mae Jess Bugler yn artist sydd wedi arbenigo mewn cynhyrchu printiau torlun leino lleihau cymhleth. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei phrintiau, gan gynnwys Gwobr y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn yr Arddangosfa Argraffu Wreiddiol Genedlaethol yn Llundain.

Mae’r gweithdy cyffrous hwn ar gyfer gallu cymysg a bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu rho i chi.

  • Mae’n rhaid archebu lle (anfonwch e-bost neu ffoniwch)
  • Heb aelodaeth £120.00 / Aelodau £75.00

Sylwadau ar gau.